: albyms
Mabon: Lumps of Mabon (2001)
Albwm llawn cyntaf Mabon, dyma'r band acwstig gyda'r pedwar aelod gwreiddiol: Jamie Smith, Gareth Whelan, Derek Smith a Iolo Whelan. Allan o brint erbyn hyn, dim ond y ffans hir-dymor sy'n berchen ar un o'r rhain!
Sanfaro: Colour it Purple (2004)
Yr unig albwm gan Sanfaro, band pop/rock dan arweiniad Colum Regan a Kerry Sanson.
Colum Regan: Go (2006)
Albwm solo cyntaf Colum Regan, a gafodd dderbyniad eiddgar gan feirniaid a'r cyhoedd fel ei gilydd. Siwrne gyffrous, feiddgar: triniaeth drylwyr o ganeuon trawiadol.
I brynu, cysylltwch a Colum drwy www.myspace.com/columregan
Mabon: OK Pewter (2007)
Albwm stiwdio mwyaf poblogaidd Mabon, a ddaeth â 'r band at sylw cynulleidfa ehangach. Mae OK Pewter yn dangos y band ar eu mwyaf creadigol, gyda'u mwynhad yn pefrio trwy'r tonau a chario'u cynulleidfa gyda nhw.
Prynwch ar www.jamiesmithsmabon.com/shop/
Billy Pezzack: Your Blue Sky (2010)
"Billy's playing is inventive and adventurous with a loose spontaneous feel"
Shaun Baxter, arloeswr Jazz metal.
Gitarydd hynod o Gaerdydd yn chwarae casgliad o'i gyfansoddiadau ei hun: jazz, blues, roc a mwy.
I brynu, ewch at www.billypezzack.co.uk
Mabon: Live at the Grand Pavilion (2010)
"Stunning - music of five-star quality and studio crisp"
R2(Rock n Reel) Magazine
"The band rips up a firestorm on a selection of clever tunes. Roots music of the highest order"
Acoustic Magazine
Recordiwyd yr albwm byw yma ar noson olaf taith OKUK Mabon yn 2009, ac enillodd glod beirniaid yn ogystal â gwobr Albwm Offerynol Gorau 2010 gan wefan Spiral Earth. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys DVD o gyngerdd ar Ynys Wyth, a ffilmiwyd ar yr un daith.
Prynwch ar www.jamiesmithsmabon.com/shop
Mabon: Windblown (2012)
Pumed albym Mabon, a’r cynta i gynnwys caneuon, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
“Smith is at his best singing in Welsh on the brooding, then epic, Caru Pum Merch” Guardian
“thrilling as a live experience… Windblown makes a fair fist of bottling the magic” Financial Times
“a top band…a terrific album…a band on the brink of bigger things” Mike Harding, BBC Radio 2
“a confident, breezy, joyous album… step up, it’s well worth buying” worldmusic.co.uk
Mabon: TWENTY - LIVE
Albym olaf Mabon - detholiad o gerddoriaeth yn edrych nôl dros ugain mlynedd o yrfa’r band. Recordiwyd ar ddechrau eu taith ugain-mlwyddiant yng ngwanwyn 2018.
bursting with hwyl’ - Guardian
‘a sweet spot between traditional and electric’ - Living Tradition
‘a glorious, celebratory resume of two decades’ - folkradio.co.uk
Huw M: Utica (2015)
Utica yw trydydd albym Huw M, y cyntaf i gael ei ryddhau ar label I Ka Ching. Mae Huw yn plethu dylanwadau gospel cynnar gyda chanu gwerin Cymreig, gan ychwanegu llond llaw o ddwyster, hiraeth a thor calon.
Mae caneuon o Utica wedi ymddangos ar Radio 1, Radio 3, Radio 6 Music, Radio Cymru, Radio Wales.
Huw Stephens, BBC Radio 1
“His new album is beautiful”
Gareth James, Clash (8/10)
The rich songwriting of Huw M’s Utica deserves a much wider audience.
Max Bell, Record Collector ⭐⭐⭐⭐
Delicate and original and packed to the rafters with gorgeous melodies and intriguing words.
Mabon: The Space Between
Albym stiwdio olaf Mabon - y cymysgedd arferol o ganeuon yn y Gymraeg a’r Saesneg a cherddoriaeth offerynol rhyng-Geltaidd.
‘with its broad reach, this album is a welcome addition to the catalogue... unmatched by their peers - Songlines
‘a very strong album’ - The Telegraph - Best Folk Albums 2016
‘superb band... superb tunes’ The Express
‘an excellent release - you won’t be disappointed’ - Fatea
‘eclectic tunes and virtuoso playing - an album of solid talent’ - Bright Young Folk
Colum Regan: Hotel (2011)
"Songs don’t get any better than that"
Alan Thompson, BBC Radio Wales
Dyma gyfle i ddod i adnabod cerddoriaeth Colum mewn modd personol a chynnil. Wedi ei albwm diwethaf, oedd yn fawr ei sain ac yn ddwys ei gynnwys, mae Colum yn gadael ei ganeuon mewn cyflwr mwy naturiol ac acwstig y tro hwn.
I brynu, cysylltwch a Colum drwy www.myspace.com/columregan
Kadesha: Take One (2010)
Cyfle i ddarganfod cantores a chyfansoddwraig ifanc, dalentog ar ddechrau ei gyrfa: llais eithriadol o hyfryd.
I brynu, cysylltwch a Kadesha drwy www.myspace.com/kadeshadrija
The Howl in Arcadia: The Howl in Arcadia (2008)
"An outrageous concept - and it works... terrifying virtuosity... this is what opera should be."
Classical Music Fortnightly
Opera Baroc Jazz Tywyll ar gyfer radio gan Simon Thorne. Chwe cherddor eithriadol yn chwalu ffiniau a chonfensiwn i archwilio ochr dywyll natur ddynol.
The Cherubs: To Those Born Later (2008)
"Alex Alderton can belt with the best of them. But... there's exquisite delicacy here too. You can't help but feel what she is singing about"
JAZZ UK
Perfformiadau ysbrydoledig o ganeuon tywyll, pwrpasol, o Bertolt Brecht i'r cyfansoddwr cyfoes Simon Thorne. Cerddoriaeth ac agwedd ddwys i ysbrydoli myfyrdod.
Kerry Sanson: Black Dog (2006)
Llais pwerus ac arddull unigryw Kerry Sanson sy'n gyrru'r casgliad amrywiol yma o'i chaneuon ei hun a'i chyfansoddiadau ar y cyd.
Mabon: Ridiculous Thinkers (2004)
Yr albwm Mabon cyntaf i gynnwys y sain mwy, cafodd Ridiculous Thinkers ei recordio gan bedwar aelod gwreiddiol y band gyda Jason Rogers ar y gitâr fâs.
Prynwch ar www.jamiesmithsmabon.com/shop/