English

: newyddion

  • 2024-06-09: Haf '24

    Mae'n haf o'r diwedd!

    Mae'r stiwdio yn sydyn fel ynys mewn mo^r o wyrddni,
    mae'n dymor priodasau a gwyliau,
    ac adre bu'n gyfnod penblwydda (aThGAU's yn anffodus!).

    Cywaith newydd:
    pe carech ymweld a^'r Philharmonic yng Nghaerdydd unrhyw ddydd Sadwrn (heblaw pan wy'n chware'n rhy bell i ffwrdd yr un noson), cewch weld Jammy & The Dodgers rhwng 5 a 7 o'r gloch - ond wy ar yr offerynnau taro yn lle ar y kit. Mae'n sioe hwylus iawn ac rwy'n mawr fwynhau bod ar fy nhraed ac yn rhydd i symyd!

    Gobeithio gwnewch chithau fwynhau'ch haf hefyd. i.xx

  • 2022-11-22: BLWYDDYN DRA HYFRYD

    Bu 2022 yn flwyddyn gyffrous a’i llond o gyweithiau amrywiol. Y bandiau arferol yn brysur, llanw stôl i fandiau eraill, ambell gywaith unigryw; torreth o ganu cyfeiliant a ‘chydig o ganu prif lais hefyd.

    Cadwch lygad am albym newydd hyfryd gan Nancy Ackroyd Band yn y gwanwyn; ymddangosiad gwadd ar offerynnau taro yn fideos newydd Codewalkers; ac ewch i weld fideos sydd newydd eu rhoi ar y wefan hon, un gan Nancy ac un yn fyw gyda Coltrane Dedication hydref yma.

    Bum i’n ymhyfrydu drwy’r flwyddyn mewn cael dysgu’n fyw yn y stiwdio eto, ar ôl cyfnod cofid. Mae ‘nisgyblion yn ysbrydoliaeth, yn ymestyn eu gorwelion a thyfu o hyd mewn chwaeth a gallu.

    Mi lanwa’i dudalen gigs y wefan yma cyn hir (onest!) ar gyfer y sawl ohonoch chi sy’n gofyn ble gallwch chi glywed cyngerdd. Diolch ichi fel wastad am eich cefnogaeth a’ch brwdfrydedd.

    i.x.

  • 2021-07-30: BRYD I CHWARAE ETO!

    Ar ol dros flwyddyn heb chwarae'n fyw, mae'n anodd sbonio pa mor hyfryd bu'r cyfle i chwarae eto yn y misoedd dwetha.

    Mae rhai o'r cyweithiau cyson bum i'n chwarae ynddynt nol wrthi;
    mae cyngherddau ar y gweill gyda bandie sy'n chware'n llai aml;
    ac mae hyd yn oed gywaith neu ddau newydd wedi ymddangos dros y cyfnodau clo!

    Ewch at y dudalen 'gigs' am fanylion pellach.

    Dewch da chi i brofi ac i gefnogi cerddoriaeth fyw eto! Wy'n gwir werthfawrogi'ch cefnogaeth drwy gyfnod anodd yn ddiweddar - ac yn edrych mlaen at gael eich gweld yn mwynhau gigs eto'n fuan!

    xx

  • 2020-05-07: DEUFIS DISTAW

    Am y tro cynta ers degawde, mae fy nrymie wedi aros yn eu casus ers dros fis nawr. Mae'n deimlad rhyfedd, ac rwy'n gweld eisiau'r taro a'r twrw a'r torreth tiwns!

    Os y'ch chithau'n gweld eishe un o'm bandiau, ewch at dudalen fideos y wefan hon, lle cewch wylio (neu ail-fyw!) gwledd o gyngherddau a fu.

    Dwi'n dal i ddysgu, pe carech wersi ar-lein nes fod y Stiwdio ar agor eto.

    Yn y cyfamser, wy'n bachu'r cyfle i arafu'r curiad, ac ystyried y dyfodol.
    Edrycha'i mlaen at eich gweld chi yno!

    Tan hynny, hwyl ac iechyd ichi gyd, a diolch o galon am eich cefnogaeth ffyddlon ar hyd fy ngyrfa gyfan. xx

  • 2018-04-21: Manylion cyfoes ar y ffordd!

    Ymddiheurion nad oes unrhyw newyddion, albyms, fideos na gigs ar y wefan hon am y tro - mae Stwff Newydd ar y ffordd cyn hir! :-)

  • 2017-01-11: Blwyddyn newydd dda!

    Wele 2017, ac fe ddwlen i ddweud bod llond blwyddyn newydd o gyweithiau newydd ar y gweill - ond does 'na ddim! Na, bydd eleni yn gyfle i gario mlaen ar yr un trywydd, ond *yn well*! :-D

    Byddai'n teithio gyda Jamie Smith's MABON a chydag Huw M a'r band; bydda'i ar hyd De Cymru yng nghwmni diddan Goose; PULL; a Jammie and the Dodgers; ac fe fyddai'n mwynhau tywys fy nisgyblion disglair ar gamau nesaf eu teithiau cerddorol yn Stiwdio Ddrymio'r Fro.

    Felly mae'n bleser cael gwneud yr un pethau, ac ymlafni i'w gwneud yn well! At y perwyl hynny, byddai'n gweithio gydag athrawon arbenigol ym maes drymio a Thechneg Alexander; ac fe fyddai'n gwella eto ar fodd fy musnes ac yn enwedig gyfleusterau'r Stiwdio.

    O, mae 'na un peth newydd am 2017, sef band jazz a swing dwi'n ei lawnsio ar gyfer chwarae mewn priodasau a digwyddiadau: bydd yn ffocws da i chwarae jazz yn gyson, yn ogystal a chydweithio gyda chriw newydd eto o gerddorion abl.

    Dyma obeithio'ch gweld yn ystod 2017! :-)

  • 2015-05-04: The Big ash 2015 - am lwyddiant ysgubol!

    Ym mis Ebrill, bu imi ddathlu fy mhenblwydd drwy chwarae'r drymie am ddeugain awr di-dor. Cefnogwyd 'The Big Bash 2015' gan lu o gerddorion, gwirfoddolwyr a chynorthwywyr, ac yn ogystal a chael penwythnos eithriadol o hwylus, fe lwyddon ni gasglu dros £8,000 ar gyfer yr elusen WaterAid.

    Diolch o galon i bawb a gynigodd eu amser a'u doniau mor hael, ac i bawb a gyfranodd arian at yr achos hefyd. Bydd modd gweld rhai o uchafbwyntiau The Big Bash cyn hir ar y ddolen 'fideos' uchod.

    A dal i ddod eleni:
    - Bydda'i ar daith gyda'r band Jamie Smith's MABON ym mis Hydref a Thachwedd i ddathlu'n albwm newydd 'The Space Between';
    - Mae albwm newydd y canwr Huw M bron yn barod i'w rhyddhau, a byddai'n gigio gyda Huw a'r band ym mis Rhagfyr;
    - Yn y cyfamser, byddai'n ceisio cwblhau ystafell newydd y stiwdio dros yr haf - wir yr!

    Dylai hynny fy nghadw i'n brysur! Gallwch chi edrych ar y dudalen 'gigs' uchod os carech chi ddod i glywed rhywfaint o gerddoriaeth fyw rhyw ben. Hwyl am y tro!

  • 2015-01-13: Blwyddyn gyffrous ar y gweill am 2015!

    Mae'n argoeli'n dda am flwyddyn gynhyrchiol!

    Mi fyddai'n recordio albwm newydd gyda Jamie Smith's MABON;
    Mi fyddai'n ymddangos ar albwm newydd Huw M;
    Dwi'n gobeithio ca'i orffen estyniad y stiwdio o'r diwedd (!);
    Byddai'n chwarae mewn nifer o leoliadau newydd imi, gan gynnwys Romania, yr Hebrides a Shetland;
    A gorau oll, mae'r BIG BASH yn ei ol!

    Ar 17&18 Ebrill eleni, byddai'n ymdrechu i chwarae'r drymie am 40 awr di-dor (ie, 40 awr!) ar gyfer yr elusen WaterAid. Bydd jazz nos Wener; sesiynau offerynol acwstig; gweithdy drymio agored; deuawdau lu a "brwydr" drymie chwe-dyn!; bandie nos Sadwrn 'Goose' a 'Miss Maud's Folly'; te a choffi, peis a theisen, cwrw a gwin, peintio gwynebau... ac yn y blaen!

    Bydd manylion 'The Big Bash 2015' ar gael cyn hir - croeso ichi anfon ebost yn y cyfamser os am wybod mwy neu os hoffech gymryd ran.

  • 2014-05-22: HAF HWYLUS!

    Mae tymor cyngherddau'r haf wedi dechrau eisioes gyda gwyliau hwylus yng Nghymru a Lloegr eisoes. Ymhlith cyngherddau eraill yr haf yma mae'r Rainforest World Music Festival yn Borneo; gwyl fawreddog Cornouailles yn Llydaw; noson werin gyntaf erioed y Proms Cymreig yng Nghaerdydd; a phentwr hyfryd o gyngherddau eraill o amgylch Prydain ac Ewrop. Mae manylion ar y dudalen 'gigs' - dewch i glywed!

    Bydda'i hefyd yn cynnal amserlen ddysgu gyson drwy'r haf - rhan fwya bob dydd Llun a Mawrth drwy'r gwyliau - felly gallwch chi ddal i ddod am eich gwersi!

    Ac yn y bylchau rhwng teulu a theithio a thiwtora , byddai'n ceisio gorffen y gwaith strwythurol ar estyniad y stiwdio - cofiwch chi, ddwedes i hynny yr un amser llynedd hefyd! ;)

  • 2013-06-26: Hwyl yr Haf

    Mae tymor cyngherddau'r haf wedi dechrau, ac bu ifi chwarae mewn gwyliau yng Nghymru, Lloegr, Sardinia a'r Iseldiroedd eisoes. Ymhlith cyngherddau eraill yr haf yma mae Festival Interceltique de Lorient yn Llydaw, a gwyl werin enfawr Cambridge Folk Festival - manylion ar y dudalen 'gigs'.

    Bydda'i hefyd yn cynnal amserlen ddysgu gyson drwy'r haf - rhan fwya bob dydd Llun a Mawrth drwy'r gwyliau - felly gallwch chi dal ddod am eich gwersi!

    Yn y bylchau rhwng teithio a thiwtora, byddai'n ceisio gorffen y gwaith strwythurol ar estyniad y stiwdio - dyma obeithio tabeth!

    Mwynhewch yr haf... :)

  • 2013-02-27: Gwanwyn ar y ffordd...

    Wedi taith lawns lwyddianus ac ymateb cadarnhaol iawn i'r albwm newydd 'Windblown', mae Jamie Smith's MABON ar daith eto o amgylch Cymru a Lloegr drwy gydol mis Mawrth gydag ail ran Taith Windblown.

    Bu i'r gerddoriaeth ei chwarae ar sianeli BBC Radio 2 & 3 yn ogystal a dwsenni o sianeli llai; mae'r beirniaid affans y band fel ei gilydd yn dwli ar y gerddoriaeth newydd... gweler y dudalen 'gigs' neu wefan y band am fanylion, a dewch i glywed y band ar ei anterth y gwanwyn yma.
    "epic" - The Guardian
    "fur coat *and* knickers" - fRoots
    "if music could power engines, Mabon would solve the energy crisis" - Songlines
    www.jamiesmithsmabon.com

  • 2012-10-09: **Albwm Newydd!**

    Mae'n bleser gen i gyhoeddi fod albwm newydd Jamie Smith's MABON wedi ei orffen a'i ddylifro, yn barod ar gyfer lawns swyddogol ar 29ain o Hydref 2012.

    'Windblown' oedd fy ymdrech greadigol pennaf eleni, felly rwy'n edrych ymlaen at glywed ymateb pobl- mae'r arwyddion cynnar yn gadarnhaol iawn.

    Gallwch chi lawrlwytho trac AM DDIM o'r albwm, sef 'Lady of the Woods', neu wrth gwrs archebu'ch copi eich hun, drwy ymweld a www.jamiesmithsmabon.com/windblown/?language=cym .

    Bydd lawns yr albwm yng Nghymru, sydd hefyd AM DDIM, ymg Nghanolfan y Mileniwm ar brynhawn Sul 4ydd o Dachwedd, am 4 o'r gloch. Basai'n hyfryd eich gweld chi yno!

  • 2012-05-13: Cynhadledd Zillo

    B

  • 2012-03-26: Digon o amrywiaeth i ddod!

    Ar ol canolbwyntio'n astud ar daith Gwanwyn JSMabon am y dair wythnos diwetha, mae'r dyddiadur am y mis i ddod yn cynnwys gigs gyda saith band gwahanol! O driniaeth wreidiol y band Goose o ganeuon poblgaidd, hyd jazz a cherddoriaeth byfyfyr gan Coltrane Dedication Project, bydd digon i 'nghadw i ar flaenau 'nhraed.

    Mae un band newydd sbon i fi ar y rhestr - byddai'n ymuno a Lou Noble & The Sauce yng Ngwyl Burlesque Caerdydd wythnos nesaf - wy'n edrych ymaen at y swing swynol!

  • 2012-03-01: Gigs Gwanwyn i JSMabon

    Bydd y band adnabyddus Jamie Smith's MABON ar daith o wythnos nesaf, i chwarae deg cyngerdd mewn canolfanau celfyddydolo a neuaddau o amgylch Cymru a Lloegr. Byddwn ni'n arddangos ac yn gweithio ar y deunydd newydd ar gyfer ein albwm nesaf, gaiff ei recordio fis nseaf ac a fydd ar werth yn yr Hydref.

  • 2011-09-11: GWEFAN NEWYDD SBON

    Newyddion penna heddi yw fod gen i wefan newydd sbon - ond mi wyddoch chi hynnu eisioes am wn i!

    Diolch i Adam Rhodes am ei gyfraniad enfawrl, a diolch i chi am alw heibio: ewch I bori, cynigwch adborth os hoffech chi, a chofiwch ddychwleyd yn fuan i gadw llygad ar y rhestr gigs neu ar fy newyddion diweddara.

    Diolch,
    iolo. :-)