: ty crwn
Yn ogystal â bod yn gerddor proffesiynol, yn ŵr, yn dad ac yn berchennog ci, rwy'n dwlu ar fyd natur, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn materion amgylcheddol.
O ganlyniad, treuliais i sawl blwyddyn yn rhan o dîm gwirfoddol fu'n arbrofi gydag adeiladu tai crwn. Adeiladwyd dau dŷ crwn anhygoel yn ystod y cyfnod hwn ar safle hyfryd ym Mro Morgannwg, ac mae un yno o hyd. Diben gwreiddiol y Tŷ Crwn presennol i fi oedd arddangos potensial defnyddiau naturiol yng nghyswllt adeiladu, ac ysgogi ymwelwyr i ystyried y berthynas anodd rhwng yr angen am dai a'u heffaith ar eu hamgylchedd.
Er nad yw'r Tŷ Crwn ar agor i'r cyhoedd fel rheol, nac ar gael i'w rentu, fe'i defnyddir yn achlysurol at bwrpasau cymdeithasol, celfyddydol ac addysgiadol. Neu, os oes gennych chi ddiddordeb arbennig yn y Tŷ a hoffech chi ei weld drosoch chi'ch hun, croeso i chi gysylltu â fi: gawn ni weld os gallwn ni drefnu ymweliad preifat.
Yn y cyfamser, mae llawer o wybodaeth, hanes a lluniau ar y wefan: www.theroundhouse.org