: gwersi
Rwyf wedi bod yn rhoi gwersi ar y 'kit' ac ar offerynnau taro ers 20 mlynedd bellach (er mod i'n gwadu bod yn ddigon hen am hynny!).
Lleolwyd y gwersi am y ddeng mlynedd diwethaf yn Stiwdio Ddrymio'r Fro, gofod penodol ar gyfer dysgu drymio.
Mae yno ddau 'kit' trydanol ac un acwstig, yn ogystal â detholiad eang o offerynnau taro eraill ac adnoddau dysgu pellach.
Mae cywaith o araf ar waith i ymestyn y Stiwdio (er yn ara deg): bydd yn dyblu mewn maint i gynnwys ardal aros yn ogystal ag ystafell ddysgu fwy.
Caiff disgyblion eu gwersi fesul un yn y Stiwdio, mewn awyrgylch hamddenol a chynhyrchiol. Rwy'n dysgu pobl o bob safon, o'r dechreuwr llwyr i'r cerddor proffesiynol.
Mae rhai pobl yn dysgu fel hobi; mae eraill am gasglu cymwysterau neu efallai am wneud gyrfa fel cerddor; ond mae pawb yn dysgu am hwyl, a dyna yw sail fy arddull ddysgu.
Pris gwersi yw £40 yr awr. Gellir trefnu gwersi byrrach pro rata ar gyfer y disgyblion ifancaf neu leiaf profiadol.
Rwy’n aelod o Undeb y Cerddorion ac mae gen i dystysgrif CRB cyfredol ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac rwy’n arddangos Polisi Amddiffyn Disgyblion ac Athrawon yn y Stiwdio.
Am fanylion pellach, cysylltwch ar 07977 849 562, neu gydag ebost ac mi fydda i'n falch i drafod eich anghenion.