: bandiau
-
Tiger Town Swing
Band Swing diddan ar gyfer eich parti neu achlysur chi.
Caneuon byddwch chi’n eu caru: o’r jazz cynharaf;
drwy ratpack a roc-a-rôl, disco a soul;
hyd ganeuon pop y ganrif newydd;
dyma ganeuon bydd pawb yn eu hadnabod,
wedi eu perfformio gyda sain hwylus ac hyfryd.
Gallwch ymweld â thudalen Fideos y wefan hon i wylio rhai caneuon; a chysylltwch â fi am fanylion pellach, i glywed tracie, gweld ein rhestr caneuon ac i drafod prisiau a dyddiadau. -
Huw M
"stunningly beautiful music" Stuart Mconie, BBC 6 Music
Huw M yw’r cyfansoddwr a pherfformiwr Huw Meredydd Roberts.
Mae’n chwarae cymysgedd o felodïau gwreiddiol a chaneuon gwerin, wedi’u plethu gyda dylanwadau rhyngwladol i greu cerddoriaeth iasol, ddeallus.
Ar gyfer ei albwm Utica, ffurfiodd bedwarawd sensitif, meddylgar a chrefftus o bedwar llais, gyda Lucy Simmonds ar y soddgrwth, Bethan Mai yn chwarae’r acordion, a Iolo Whelan ar y drymiau a’r offerynnau taro. -
Pendevig
'Adwaith drydanol i draddodiad'.
Mae cenhedlaeth newydd o gerddorion gwerin disglair yng Nghymru.
Daeth bymtheg o ser y sîn yn uno mewn dathliad theatrig o dôn a dawns, cerdd a chân yn 2018.
Mae blas bach fan hyn ar eu gig cynta yng Nghymru; pwy a ŵyr os daw bennod arall o Bendevig ryw bryd?! -
Jammy and the Dodgers
Cerddor cynnil a chrefftus yw Jammy (neu James Harris) sy'n treulio llawer o'i orie gwaith ar lwyfan Brewhouse yng Nghaerdydd.
Fanna gallwch chi 'nghanfod inne hefyd, am yn ail nos iau, yn cyfeilio i Jammy tra'i fod yn dethol caneuon chwaethus a diddorol - cyn fod disgwyliad y penwythnos arno i chwarae'r caneuon mwy amlwg!
Mae Bandeoke yn werth ei weld fanna hefyd, a nos Sadwrn dan ei sang o bartïwyr; ac wry yn Y Philly bron bob p’nawn Sadwrn ond ar y bongos bach a’r tamborîn!
Cadwch lygad ar y rhestr gigs, mae’n fand hwylus a medrus tu hwnt. -
Nancy Ackroyd Band
Triawd organig o Fro Morgannwg: gitâr, soddgrwth a drymie bach yn cyfeilio i dri llais mewn harmonïau hyfryd.
Mae’r band yn creu awyrgylch hawddgar yn eu cyngherddau, ond mae caneuon Nancy yn rhai craff, wedi eu trwytho mewn emosiwn a natur.
Ar eu albym diweddaraf ‘Light the Lamps’, bu i’r band grefftio casgliad swmpus o gerddoriaeth gain sy’n cysylltu â’u ffans ar lefel bersonol. -
Jamie Smith s MABON
(1999 - 2021)
"If music could fuel engines, Mabon could solve the energy crisis” - Songlines
Am ddau ddegawd, hwn oedd band cerddoriaeth RhyngGeltaidd gwreiddiol mwyaf blaenllaw Cymru. Niche cul, gwir iawn, ond dilys serch hynny. ;-)
Perfformiodd Mabon dros fil o gyngherddau mewn dwsenni o wledydd yn ogystal â rhyddhau saith albwm; a chasglu criw ffyddlon o ddilynwyr eiddgar wrth iddyn nhw dyfu i'w safon aruthrol.
Ar gyfer y rheiny a hoffai dwrio i hanes y band, mae’r wefan dal i fyw: www.jamiesmithsmabon.com/?language=cym. -
Goose
Band proffesiynol a phrofiadol sy'n chwarae cerddoriaeth boblogaidd dan arweiniad disglair Colum Regan - canwr o Cork sy'n uchel ei glod yng Nghymru bellach.
Cerddoriaeth o'r 1960au tan heddiw; aelodaeth hyblyg, o fand tynn tri-dyn hyd beiriant partis deg-aelod; ond naws hwylus a cherddoriaeth grefftus bob tro.
Dewch i weld y band yn fyw yn un o'r cyngherddau cyhoeddus sydd ar rhestr gigs y wefan hon. Neu i'w fwcio, cysylltwch a Colum drwy http://www.gooseband.co.uk/.
© 2024 Iolo Whelan
Dylunio Gwe gan BackBeat Design